Neuadd y Pentref, Castell Gwalchmai

Neuadd y Pentref, Castell Gwalchmai

Ysgol gynradd i’r pentref a’r cyffiniau oedd y Neuadd Bentref yn wreiddiol, a oedd ynghlwm â’r ysgoldy. Caewyd yr ysgol yn y 1960au cynnar.  Drwy gasglu arian a chyfraniadau gan blwyfolion, prynwyd y neuadd er mwyn ei defnyddio gan y gymuned.  Cafodd ei hadnewyddu yn 1978 a gwnaethpwyd rhagor o waith adnewyddu a moderneiddio gyda chymorth grant y gronfa Loteri yn 2002. Mae Neuadd Bentref Castell Gwalchmai yn elusen gofrestredig, sef Sefydliad Corfforedig Elusennol Castell Gwalchmai, sy’n cael ei redeg gan ymddiriedolwyr gwirfoddol.

Mae Castell Gwalchmai wedi’i leoli ar dir Bae Sain Ffraid. Mae ei leoliad yng nghefn gwlad odidog canol Sir Benfro yn hynod hygyrch, oddeutu 2 filltir oddi wrth Aber Llydan ac Aber-bach, 4 milltir i’r dwyrain o Aberdaugleddau a 6 milltir i’r gorllewin o Hwlffordd. Yn ganolbwynt i’r Pentref mae eglwys Normanaidd Sant Iago Mawr, yr eglwys ganoloesol a gafodd ei hadnewyddu’n sylweddol yn y 19eg ganrif. Mae neuadd y pentref a’r Hen Ysgoldy wedi’u lleoli ger yr eglwys a’r fynwent a cheir maes y pentref yn y cwm coediog islaw. Mae olion amlwg caer neu ‘Rathlan’ o’r Oes Haearn i’w gweld yn y cae gyfochr â’r fynwent, ac yn rhoi cliw ynghylch enw’r pentref.  Mae llwybrau troed hyd at Lyn hyfryd ‘Rosemoor’ yn dechrau ym maes parcio Neuadd y Pentref

Y Neuadd

Mae neuadd bentref Castell Gwalchmai yn ofod aml-ddefnydd a chroesawgar, sydd â golau naturiol da. Yn rhan o’r adeilad, mae’r brif neuadd fawr siâp L, gyda chegin â chyfleusterau helaeth yn arwain oddi ar y brif neuadd, cyntedd wrth y fynedfa, gyda thoiledau ar yr ochr. Mae llawr pren drwy gydol y brif neuadd a’r cyntedd. Mae digon o le i 60 o bobl eistedd yn y neuadd. Darperir byrddau a chadeiriau. Mae’r neuadd ar gael i’w llogi yn ystod y dydd a gyda’r nos ar gyfer dosbarthiadau a gweithgareddau, digwyddiadau, cyfarfodydd, arddangosfeydd, codi arian at elusennau a grwpiau. Mae cyfuniad o weithgareddau cymunedol yn cael eu cynnal yn y neuadd ar hyn o bryd, gan gynnwys ‘coffi a chlonc’, sgyrsiau tyfu a natur etc.  Bydd WiFi ar gael o 2022. Mae cyfleusterau’r gegin yn cynnwys:- oergell, boeler dŵr poeth, peiriant golchi llestri, popty trydan rhydd-sefyll gyda phedwar hob, popty ffan a gril a chabinet poeth, yn ogystal â llestri a chyllyll a ffyrc i hyd at 60 o bobl.  Mae cyfleusterau newid babanod i’w cael yn y toiledau anabl. Mae gan y neuadd faes parcio mawr o gerrig mân. Ceir maes pentref gyferbyn â’r neuadd, sy’n adnodd defnyddiol ar gyfer partïon plant, picnics a gweithgareddau. Mae pwyntiau trydan yn yr awyr agored i’w cael ar wal allanol y neuadd ac ar y maes

Nodweddion

  •  Cegin gyda chyfarpar modern, gan gynnwys peiriant golchi llestri
  •  Toiledau
  •  Maes parcio mawr
  •  Neuadd wedi’i hadnewyddu

Manylion cyswllt

Ffôn- 01437 929813
E-bost- wcvh.rosewood@outlook.com

Cyfleusterau parcio ar gael

DisabledLleoedd parcio i’r anabl ar gael

WheelchairMynediad i gadair olwyn yn nhu blaen yr adeilad

ToiletsToiledau

AccessibleToiled hygyrch

LevelMynediad gwastad i’r adeilad

UpMynediad â ramp i’r adeilad

Downward-slopingRamp i lawr