Neuadd y Pentref, Tredeml

Neuadd y Pentref, Tredeml

Mae Tredeml wedi’i leoli ym mherfeddion Sir Benfro ac mae naws gref o ysbryd cymunedol yno. Mae’n bentref bychan, cyfeillgar a chlos sydd â chyfoeth o ddiddordeb hanesyddol a gweithgareddau cymunedol. Mae wedi’i leoli oddeutu 2 filltir i’r de o Arberth ar yr A478 ac o fewn pum milltir i’r arfordir yn Saundersfoot. Mae gan y pentref boblogaeth o oddeutu 850.

Y Neuadd

Yn 2019, gwnaethpwyd gwaith adnewyddu mawr yn y Neuadd ac adeiladwyd estyniad arni. Erbyn hyn, mae ganddi nenfwd is, system wres a golau effeithlon, sy’n gwneud y lle yn llawer mwy deniadol, ac ni fydd angen talu ar wahân am y gwres o hyn ymlaen ychwaith.

Mae ffenestri a drysau newydd wedi’u gosod, gan gynnwys drws dwbl allan i’r patio tua’r de, sy’n cysylltu’r ystafell yn uniongyrchol â Maes y Pentref. Mae’r llawr â sbrings yn parhau i fod yn ei le, sy’n berffaith ar gyfer chwaraeon a dosbarthiadau ymarfer corff. Mae’r toiledau wedi’u hadnewyddu’n llwyr, felly erbyn hyn mae toiledau anabl ar ochr ogleddol a deheuol yr adeilad. Mae’r estyniad yn cynnwys ystafell newydd sydd bron mor fawr â’r gwreiddiol i bobl ei defnyddio, ac ystafell gyfleustodau gyda thegell a microdon ar gael. Rhwng y ddwy ystafell, mae wal wrthsain symudadwy, felly gellir cael dau grŵp ar wahân o hyd at oddeutu 80 o bobl yn defnyddio’r Neuadd ar yr un pryd, y ddau gyda’u cyfleusterau lluniaeth sylfaenol eu hunain, neu gellir symud y wal at yr ochrau ac mae digonedd o le am hyd at 180 o bobl yn y gofod cyfunol.

Mae’r gegin wedi cael bywyd newydd hefyd gyda phopty, unedau, arwynebau gwaith newydd a llawr rhwydd ei lanhau sy’n parhau i’r ystafell gyfleustodau a’r coridorau i’r toiledau. Y tu allan, nid yn unig mae maes parcio gyferbyn y Neuadd ar gyfer ei defnyddwyr, ond ceir un arall gyferbyn ag ochr ogleddol y Neuadd, ger Knights Court Estate. Mae’r maes parcio hwn yn darparu mynediad oddi ar y ffordd i unrhyw brif fynediad y Neuadd.

Dyma Vicky Mitchel, clerc neuadd bentref Tredeml, yn eistedd ac yn trafod neuadd y pentref cyn y cyfnod clo, beth oedd y cyfnod clo yn ei olygu i neuadd Tredeml a sut beth fydd y dyfodol i neuadd bentref Tredeml ar ei newydd wedd.

Nodweddion

  •   Maes parcio ger ochr ogleddol y Neuadd, ac ar draws y ffordd ger y Maes Chwarae caeëdig i blant, sydd â byrddau picnic.
  •   Mynediad patio yn uniongyrchol at Faes y Pentref.   Mynediad anabl llawn a chyfleusterau toiled ar gael. 
  • Llawr â sbrings yn y Neuadd yn ddelfrydol ar gyfer ymarfer corff neu ddosbarthiadau chwaraeon.
  •   Wal wrthsain symudadwy rhwng y ddwy brif ystafell.
  •   Cegin fodern wedi’i ffitio’n llawn.
  •   Gall bar mewnol a gasebo mawr allanol fod ar gael ar gais.
  • Mynediad i gadair olwyn
  • Toiledau

Archebu

Mae croeso i chi anfon ymholiadau archebu at y Clerc ar clerktcc@gmail.com  Rhaid i unrhyw archeb gydymffurfio â chyfyngiadau a chanllawiau cyfredol covid-19, felly os caniateir y parti neu’r gweithgaredd yr ydych yn dymuno ei gynnal yn y Neuadd, cysylltwch â ni.

Manylion Cyswllt

Cysylltwch â Chlerc Cyngor Cymuned Tredeml drwy clerktcc@gmail.com