Mae gymuned fechan wledig Uzmaston a Boulston yn ymestyn ar hyd lan ddeheuol afon Cleddau. Er yn y wlad mae ond milltir a hanner o ganol tref Hwlffordd. Mae’r rhinwedd yma o fod “allan o’r dre ond yn agos i’r dre” yn gwneud yn le ddelfrydol i fyw ac i gwrdd lan.
Ail agorwyd y neuadd ar ol gwaith adnewyddu sylweddol ym Mawrth 2012. Mae gan y neuadd ei hun hanes diddorol; ar un adeg bu’n ysgol. Mae’r neuadd yn adnodd rhagorol i’r gymuned, boed yn lleol neu’n ehangach.
I’r dim am:
-
- Dathliadau o bob math e.e. Bedydd, Pridoas, Penblwydd
- Dosbarthiadau
- Cyfarfodydd Buses/Seminarau
- Cyfarfodydd Cyhoeddus
- Te Cynhebrwng
Y Neuadd
Mae yna le i 60 i eistedd ac mae’n bosib cael mwy.
Codir llog fesul sesiynau: bore/prynhawn/nos/dydd cyfan(3 sesiwn). Mae’r gost yn cynwys defnydd o’r gegin a’r toiledau.
Bydd angen i logwyr darparu llieiniau eu hunain
Mae hawl yfed alcohol yn y neuadd ond does dim hawl i’w werthu.
Rhif cofrestredig elusen: XN87446
Nodweddion
-
- Ystafell mawr sy’n olau ac agored
- Ffenestri Ffrengig yn edrych i’r Dde
- Derbynfa/lle i hongian cotiau
- Gwres canolog ‘dan y llawr’
- Byrddau sy’n plygu i ffwrdd
- Cadeiriau
- Cegin newydd gyda rhewgell, ffwrn a hob, tecyliau
- Ty bach addas i bawb
- Mynedfa hawdd i’r neuadd a thu fewn i’r neuadd