Neuadd y Pentref Abercych, Abercych

Neuadd y Pentref Abercych, Abercych

Mae gan pentref Abercych hanes o waith troi pren. Mae’r pentref yn eistedd ar ochr y cwm ac yn edrych lawr at yr Afon Cych. Mae’r afon yn llifo mewn i’r Teifi ar ben y pentref dan y bont ble mae’r tair sir yn ymuno. Mae Abercych heddiw yn rhan o’r plwyf Manordeifi , un o sawl pentref bach yn yr ardal. Mae’r pentref yn agos i bentref enwog Cenarth , ac hefyd i’r trefi marchnad Aberteifi a Chastell Newydd Emlyn. Mae arfordir Ceredigion a Sir Benfro yn siwrne byr i deithio.

Y Neuadd

Adeiladwyd y neuadd yn 1957. Ar ddechrau’r mileniwm newydd cafodd arian i godi’r estyniad , ac yn ddiweddar death rhodd loteri i wella’r hen gegin. Cafodd mwyafrif  o’r gwaith eu wneud gan gwirfoddolwyr yn defnyddio deunydd oddi wrth busnesau lleol.  Mae’n bosib cael 150 o bobl i eistedd yn y neuadd . Mae’r Neuadd Brif yn 58′ x 28′ ( 17.7m x 8.6m ). Mae’r Ystafell Fach yn gallu eistedd 12 person, mae’r ystafell yn 13′ x 12′ ( 4m x 3.7m ).

Mae’r neuadd yn cael ei rhedeg gan pwyllgor bach o wirfoddelwyr. Os ydych eisiau cefnogi ni ymunwch a ni ar y Dydd Mawrth cyntaf o’r mis, yn y neuadd am 7y.h. Mae lle tu allan y neuadd fydde’n addas i gael bar-be-ciw ac yn y blaen.

Nodweddion

Mynedfa:

  • lle cotiau
  • cypyrddau
  • sinc

Neuadd:

  • cegin gyda hatch

Cegin:

  • oergell
  • wrn te
  • tegell
  • llestri
  • cyllyll a ffyrc ac yn y blaen.

Ystafell fach nesaf at y gegin.

ToiledauToiledau
ToiledToiled hygyrch i gadeiriau olwyn
RampRamp i fyny i'r adeilad
 
MynedfaMynedfa gwastad i'r adeilad