Wedi ei leoli nepell o’r A487 rhwng Abergwaun ac Aberteifi, mae gan Nanhyfer hen hanes yn dyddio’n ôl i o leiaf y 5ed ganrif O.C. Mae’n adnabyddus am hen eglwys drawiadol ac mae wedi ei leoli ar hyd llwybr y pererinion i Dy Ddewi (roedd tair pererindod i Dy Ddewi yn cyfrif fel un daith i Rufain). Saif y gromlech fegalithaidd Pentre Ifan ychydig filltiroedd o’r pentref. Mae busnesau lleol yn cynnwys tafarn Y Trewern Arms, garej,ffermydd, gerddi masnachol, ystafell de a chaffi. Mae llwybr yn dilyn Afon Nyfer rhwng Nanhyfer a phentref cyfagos Felindre Farchog, ag y tu hwnt mae Bryngaer Castell Henllys sy’n dyddio o oes yr haearn ac sy’n atyniad i ymwelwyr. Mae afon Nyfer yn gartref i fywyd gwyllt megis y dyfrgi a’r crychydd, ac yn cynnig pysgota gwych. Mae busnesau lleol yn cynnwys tafarn Y Trewern Arms, garej,ffermydd, gerddi masnachol, ystafell de a chaffi. Mae llwybr yn dilyn Afon Nyfer rhwng Nanhyfer a phentref cyfagos Felindre Farchog, ag y tu hwnt mae Bryngaer Castell Henllys sy’n dyddio o oes yr haearn ac sy’n atyniad i ymwelwyr. Mae afon Nyfer yn gartref i fywyd gwyllt megis y dyfrgi a’r crychydd, ac yn cynnig pysgota gwych.
Y Neuadd
Yn ddiweddar, mae Neuadd y Pentref wedi dathlu ei phen blwydd yn bump ar hugain; cyn hynny, ‘roedd yn gwasanaethu’r gymuned fel ysgol. Mae’n cael ei gweld fel man cyfarfod allweddol, gyda pwyllgor cryf a gweithgarac yn croesawy pob math o weithgareddau ac achlysuron. Mae’r Neuadd sydd ‘nawr wedi ei moderneiddio, wedi ei lleoli mewn un o’r llecynau mwyaf deniadol yng Ngorllewin Cymru – rhwng yr eglwys hynafol a’r afon.
Nodweddion
Neuadd gyda llawr campau Ystafell Bwyllgora Cegin Fodern Mynedfa a thy bach ar gyfer yr anabl Buarth eang a chaeedig gyda gwyneb caled